DULL
Y Pasta:
Mewn prosesydd bwyd, ychwanegwch y blawd, melyn wy, dwr, olew a'r halen a phroseswch y cyfan yn friwsion man. Gweithiwch y briwsion a'ch llaw nes yn does llyfn. Lapiwch mewn cling ffilm a gadewch i orffwys mewn oergell am 1 awr.
Y Llenwad:
Mewn ffreipan mawr ffriwch y shibwnsyn mewn menyn am ryw funud, ychwanegwch y madarch a ffriwch dros wres uchel, gan gadw'r cyfan yn sych. Tynnwch i ffwrdd o'r gwres ac ychwanegwch halen, pupur a sudd lemwn i flasu. Gadewch i oeri ar ddarn o bapur cegin.
Y Saws:
Coginiwch y shibwnsyn yn y menyn ond peidiwch â'i frownio. Ychwanegwch gymysgedd o fadarch a choginiwch ar wres isel am ryw ddwy funud. Ychwanegwch y gwin a'i leihau. Ychwanegwch y stoc a'i droi gan arllwys yr hufen yn araf. Ychwanegwch dalp o fenyn oer, halen a phupur ac ychydig o sudd lemwn a'i droi i mewn i'r gymysgedd. Hidlwch y gymysgedd i greu saws llyfn cyfoethog a rhowch i'r ochr. Cadwch y madarch a chymysgwch gyda'r llenwad fel nad ydynt yn cael eu gwastraffu. Ar ôl i'r toes oeri, rhowch ef drwy beiriant rowlio pasta i greu haenen o does tenau a llyfn. Torrwch y pasta yn gylchoedd. Ychwanegwch dalp o'r llenwad yng nghanol pob cylch a'u plygu a'u selio a dwr i greu parseli rafioli. Berwch sosban o ddwr gydag ychydig o halen ynddo. Coginiwch y rafioli am 2 funud.
I weini:
Gosodwch y parseli rafioli madarch ar wely o sbigoglys wedi'i ffrio yn gyflym mewn menyn ac arllwyswch y saws dros ben y cyfan.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley