dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BOMBE SIOCLED A TIA MARIA

BOMBE SIOCLED A TIA MARIA

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 10

CYNHWYSION

82g/3owns o syltanas
55ml/2 owns hylifol o rym
250g/8¾ owns o gaws mascarpone
50g/1¾ owns o siwgr castr
¾ peint/15 owns hylifol o hufen dwbl
50g/1¾ owns o gnau almon
100g/3½ owns o siocled belg dywyll (da) - wedi ei dorri'n darnau
150ml/5¼ owns hylifol o goffi cryf du
6 llwy fwrdd/110ml o tia maria
1 cacen madeira mawr - wedi ei dorri'n 15 tafell
DULL
Cynheswch y rym a'r syltanas mewn sosban am 5 munud nes bod y syltanas wedi chwyddo. Gadewch i oeri. Mewn ffreipan sych, coginiwch y cnau almond nes yn frown. Gadewch i oeri cyn ei dorri'n darnau bach. Mewn jwg cymysgwch y coffi a'r Tia Maria. Curwch ½ peint o'r hufen a'r siwgr gyda'i gilydd nes iddo dewhau cyn ychwanegu'r mascarpone a'i phlygu mewn i'r gymysgfa. Cadwch ddwy lwy fwrdd o siocled a chnau o'r neilltu, i addurno'r gacen,ychwanegwch y gweddill at y gymysgfa hufen. Gorchuddiwch tu fewn i fasn 2½ peint gyda ‘Cling Film'. Yn y gwaelod rhowch dafell o'r gacen, arllwyswch ychydig o'r gymysgfa coffi drosti cyn gorchuddio gyda rhyw ddwy lwyed o'r gymysgfa hufen,siocled a chnau. I orffen yr haenen ychydig o sultanas. Gwnewch y broses yma ryw dri gwaith gan orffen gyda darn o gacen wedi ei orchuddio gyda'r gymysgedd coffi. Gorchuddiwch gyda ‘cling film'. Gosodwch blât ar ei ben gyda phwysau drosti (e.e tun) a'i rhoi yn yr oergell dros nos neu am o leiaf pedair awr.
I Weini: Tynnwch y cling ffilm, trowch y gacen wyneb i waered ar blât a thynnwch weddill y cling ffilm. Curwch yr hufen a daenwch dros y gacen,gorchuddiwch gyda'r siocled a'r cnau.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY