dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PWDIN BRIOCHE SIOCLED TYWYLL

PWDIN BRIOCHE SIOCLED TYWYLL

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

475g/16¾owns o laeth
475g/16¾owns o hufen dwbl
225g/8owns o siwgr
pinsied o halen
1 pôd fanila
4 melyn wy
4 wy cyfan
360g/12¾owns o siocled tywyll
8 rôl bara neu rôl brioche diwrnod oed - wedi'u torri'n sgwariau
DULL
Torrwch y rholiau bara neu brioche yn sgwariau bychan a'u tostio mewn ffwrn ar wres o 180ºC am 10 munud. Torrwch y siocled yn ddarnau mân a'i adael ar y naill ochr. Gwahanwch 4 wy, gan gadw'r gwynwy ar y naill ochr. Ychwanegwch 4 wy cyfan at y 4 melynwy a'u curo ynghyd â'r siwgr. Berwch y llaeth a'r hufen gyda'r pod fanila, a'i arllwys yn araf dros y cymysgedd wy/siwgr, gan droi'r cymysgedd yn gyson i osgoi llosgi'r wyau. Hidlwch y cymysgedd trwy hidl a'i arllwys dros y siocled. Trowch nes mae'r siocled wedi toddi, a'i arllwys dros y darnau bara/brioche mewn dysgl bobi wedi'i hiro gyda menyn. Gosodwch mewn baddon dwr a'i bobi mewn ffwrn ar wres o 150ºC am 30-45 munud nes mae'r cwstard wedi ffurfio (hynny yw, pan mae'r wyneb yn aros yn llonydd wrth ysgwyd y ddysgl yn ysgafn). Gadewch i oeri a gweinwch ar dymheredd ystafell. Addurnwch gyda sgeintiad o siwgr eisin a dail mintys.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY