dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TARTEN SIOCLED CHWERW

TARTEN SIOCLED CHWERW

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 4

CYNHWYSION

120g/4¼ owns o siocled da (70%) - wedi ei dorri'n ddarnau
2 wy
50g/1¾ owns o fêl teim
35g/1¼ owns o flawd
55ml/3 llwy fwrdd o laeth cyflawn
90ml/5 llwy fwrdd o creme fraîche
75g/2½ owns o fenyn (heb ei halltu) - wedi'i dorri'n giwbiau
4 tarten crwst melys - 10cm mewn diamedr
100g/3½ owns o ffrwythau kumquat - wedi eu torri'n denau
100g/3½ owns o siwgr castr
0.2 litr/7 owns hylifol o ddwr
DULL
Mewn sosban ac ar wres isel, berwch y kumquat, y siwgr a'r dwr yn araf nes mod y ffrwythau wedi crisialu (am tua awr). Toddwch y siocled mewn ‘Bain-Marie'. Arllwyswch y llaeth, y creme fraiche a'r menyn i'r sosban. Dewch â'r cyfân i'r berw a'i adael i oeri. Mewn powlen, curwch yr wyau cyn ychwanegu'r mêl teim a'i guro eto. Ychwanegwch y blawd at y gymysgedd wy yn araf a churwch nes mod y gymysgedd yn llyfn. Ychwanegwch y siocled a'i guro. Ychwanegwch y llaeth, y creme fraiche a'r menyn at y siocled. Curwch yn dda. Gadewch i sefyll am awr yn yr oergell.
I Weini - Rhannwch y gymysgedd siocled rhwng y tartenni. Pobwch mewn ffwrn ar wres o 180°C am 6 i 7 mun (yn ôl eich ffwrn). Yn y cyfamser, rhowch y darnau o kumquat o gylch y plât gan ychwanegu ychydig o'r sudd. Unwaith mae'r tartenni'n barod, tynnwch nhw o'r popty a rhoi ar ganol pob plât. Gweinwch ar unwaith.
DS Dylai canol pob tarten fod yn feddal.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY