dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
HWYADEN SIOCLED A CHILLI

HWYADEN SIOCLED A CHILLI

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 brest hwyaden
halen a phupur
½ winwnsyn bychan - wedi'i dorri
1 moron - wedi'i dorri'n fân
6 madarch botwm - wedi'u torri'n denau
1 llwy de o deim ffres
½ llwy de o bowdr sinamon
1 chilli coch - yn ôl eich blas
25g/1owns o siocled tywyll (70%)
280ml/½ peint o stoc cyw iâr
1 gwydraid o gwin coch
1 joch o win madeira
2 ddarn o groen oren
1 llwy fwrdd o hufen curo
DULL
Torrwch linellau ar fraster y brestiau hwyaden, ond heb dorri i mewn i'r cig, ac ychwanegwch halen a phupur. Cynheswch badell ffrio drom a gosodwch y cig, gyda'r braster ar y gwaelod, ynddi. Ffriwch am 4 munud neu tan mae'r braster wedi brownio. Arllwyswch y braster ffwrdd, troi'r cig drosodd a'i goginio am 2-3 munud pellach cyn ei adael i orffwys ar blât. Arllwyswch unrhyw fraster sy'n weddill o'r badell, a choginio'r winwnsyn a'r moron nes yn feddal, cyn ychwanegu'r madarch a'r chilli. Ychwanegwch y Madeira, ei fflamio, ychwanegu'r gwin a'i goginio nes mae wedi haneru. Ychwanegwch y stoc cyw iâr a'i leihau fymryn, cyn ychwanegu'r teim, sinamon a'r croen oren. Mudferwch am 2 funud. Diffoddwch y gwres ac ychwanegu'r siocled i'r saws. Pan mae'r siocled wedi toddi, ychwanegwch yr hufen. Os yw'r saws yn rhy denau, gadewch ar wres uchel i leihau ychydig.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY