dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL THAI CYW IÂR A CHNAU COCO

CAWL THAI CYW IÂR A CHNAU COCO

CATEGORI : CAWL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

2 frest cyw iâr - heb esgyrn a chroen
2 dun 15 owns/425g o laeth cnau coco
½ peint/275ml stoc cyw iâr
12 chilli coch bach cyfân
4 sibwnsyn
4 coesyn o lemonwelltyn, neu groen hanner lemwn wedi'i ratio
4 deilen o leim
2 lwy fwrdd o saws pysgod thai (nam pla)
sudd 2 leim
1 llwy de o sinsir ffres - wedi'i ratio
1 llwy de o saws soy
bwnsiad o coriander
DULL
Arllwyswch y stoc a'r llaeth cnau coco mewn i sosban fawr. Sleisiwch y shibwns. Torrwch waelod pob coesyn o lemon grass i ffwrdd, piliwch yr haenau allanol caled a'u taflu. Torrwch 4-/100mm bob coesyn yn fân a thaflwch y gweddill. Ychwanegwch y lemon grass neu'r croen lemwn wedi'i ratio i'r sosban gyda'r sudd leim, y sinsir, y nam pla, y saws soy, y chillis yn gyfân, y shibwns a'r dail leim. Cynheswch y cawl nes ei fod bron â berwi. Torrwch y brestiau cyw iâr yn stribedi 1”/25mm. Ychwanegwch nhw at y sosban a mudferwch am 10 munud. Cadwch 4 sbrigyn o coriander i'r naill ochr, torrwch y gweddill yn fân a'i ychwanegu at y sosban. Arllwyswch y cawl i bowlenni, addurnwch â'r sbrigynnau coriander a gweinwch. PEIDIWCH â bwyta'r chillis na'r dail leim.
Nodyn: mae'r cawl hwn yn eithaf melys oherwydd y llaeth cnau coco. Os ydych yn hoffi mwy o wmff, ychwanegwch fwy o'r sbeisys.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY