DULL
Sociwch y corbys mewn dwywaith eu maint o ddwr am 6 awr neu dros nos. Torrwch y chorizo neu'r salami yn giwbiau. Torrwch y winwns, y moron a'r pannas yn fras. Twymwch yr olew mewn padell ffrio neu sosban fawr a choginiwch y selsig am 5 munud neu nes ei fod yn euraid, gan ei droi'n gyson. Tynnwch o'r badell gyda llwy dyllog a rhowch nhw i'r naill ochr. Ffriwch y winwns yn yr olew nes eu bod yn feddal ac yn euraid. Ychwanegwch y moron, y pannas, y corbys wedi'u draenio a'r cumin a choginiwch gan ei droi am 5 munud. Trowch y stoc, y dail llawryf a'r teim i mewn. Dewch ag e i'r berw a mudferwch am hanner awr neu nes bod y llysiau'n feddal. Gadewch iddo oeri am ychydig, tynnwch y perlysiau allan a hylifwch y cawl. Ychwanegwch halen a phupur yn ôl eich chwaeth. Gweinwch gyda'r chorizo, wedi'i addurno â'r croûtons.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley