dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL CREGYN GLEISION GYDA CHENNIN SYFI A HUFEN

CAWL CREGYN GLEISION GYDA CHENNIN SYFI A HUFEN

CATEGORI : CAWL

DIGON I :

CYNHWYSION

3½ pwys /1.5kg o gregyn gleision ffres
13 owns hylif/400ml o win gwyn canolig o sych
13 owns hylif/400ml stoc pysgod neu ddwr
13 owns hylif/400ml o hufen curo
2 owns/50g o fenyn
3 tomato ffres - heb eu hadau ac wedi'u plicio
2 genhinen - wedi'u glanhau'n dda a'u torri'n fras
1 winwnsyn - wedi'i dorri'n fân
1 coesyn o helogan - wedi'i dorri'n fân
1 foronen - wedi'i deisio
3 ewin o arlleg - wedi'u malu
2 lwy fwrdd o bersli ffres - wedi'i falu
2 lwy fwrdd o gennin syfi ffres - wedi'u torri'n fân
halen a phupur du
DULL
Golchwch y cregyn gleision a thynnwch y barfau (os ydy'r cregyn yn dal ar agor wedi eu glanhau, taflwch nhw). Twymwch sosban fawr a thoddwch y menyn. Ychwanegwch y winwnsyn, y helogan, y foronen a'r garlleg, a choginiwch am 10 munud dros wres isel gyda chlawr ar y sosban. Ychwanegwch y gwin a'r stoc a dewch ag e i'r berw. Ychwanegwch y cennin a'r persli a choginiwch am 5 munud. Ychwanegwch y cregyn gleision, rhowch y clawr yn ôl a choginiwch nes bod y cregyn i gyd wedi agor. Tynnwch y cregyn gleision o'r sosban, gadewch iddyn nhw oeri am ychydig a thynnwch hanner y cregyn gleision o'u cregyn. Cadwch nhw i gyd yn dwym. Ychwanegwch yr hufen, y tomatos a'r cennin syfi at y sosban a dewch a'r cyfân i'r berw. Rhannwch y cregyn gleision rhwng 4 powlen ac ychwanegwch y cawl. Profwch i weld oes angen halen a phupur.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY