dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL CRANC, CHILLI A CORIANDER

CAWL CRANC, CHILLI A CORIANDER

CATEGORI : CAWL

DIGON I :

CYNHWYSION

1 pwys/450g o gig cranc gwyn
½ pwys/225g o gig cranc brown
2 beint/1.1 litr o stoc cyw iâr
4 owns/110g o basta cappelletti (angel hair)
2 lwy fwrdd o olew olewydd
2 lwy fwrdd o coriander ffres - wedi'i torri'n fân
2 lwy fwrdd o bersli ffres - wedi'i dorri'n fân
2 winwnsyn coch bach - wedi'u torri'n fân
2 chilli coch - heb eu hadau ac wedi'u torri'n fân
2 ewin o arlleg
1 coesyn o lemonwellt - wedi'i falu a'i gleisio
1 gwydriad gwin o sieri
sudd 1 leim
sudd 1 lemwn
1 llwy de (yn ôl eich chwaeth) o saws pysgod thai (nam pla)
DULL
Twymwch yr olew mewn sosban fawr a ffriwch y winwns, y garlleg a'r chillis nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y stoc, y saws pysgod (os yn ei ddefnyddio), sudd y leim a'r lemwn a mudferwch. Coginiwch am 5 munud, yna ychwanegwch y pasta a choginiwch yn ôl y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Ychwanegwch yr holl gynhwysion eraill a mudferwch am 2 funud cyn tynnu'r lemonwelltyn a gweini'r cawl.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY