dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL MORON, OREN A CORIANDER

CAWL MORON, OREN A CORIANDER

CATEGORI : CAWL

DIGON I :

CYNHWYSION

3 phwys/1.35kg o foron - wedi'u ciwbio
4 peint/2.2litr o stoc cyw iâr neu lysiau
2 owns/50g o fenyn
4 owns hylif/125ml o sudd oren ffres
2 owns hylif/55ml o hufen curo
6 shibwnsyn - wedi'u glanhau a'u torri'n fân
2 winwnsyn - wedi'u torri'n fân
2 lwy fwrdd o bersli - wedi'i dorri'n fân
1 pecyn bach o rocket
1 llwy fwrdd o coriander - wedi'i dorri'n fân
halen a phupur i flasu
DULL
Toddwch y menyn mewn sosban fawr. Ychwanegwch y winwnsyn a choginiwch nes ei fod yn feddal dan glawr. Ychwanegwch y moron. Coginiwch am 5 munud ac ychwanegwch y stoc boeth. Dewch ag e i'r berw a mudferwch nes bod y moron yn feddal. Ychwanegwch y rocket a'r sudd oren. Coginiwch am 2-3 munud, yna defnyddiwch hylifydd llaw i hylifo'r cawl nes ei fod yn esmwyth. Profwch am sesnad (seasoning). I orffen y cawl, profwch am sesnad eto, ac ychwanegwch yr hufen, addurnwch gyda'r coriander. Gallwch chi hylifo'r cawl mewn prosesydd bwyd ond gadewch iddo oeri yn gyntaf. Mae cawl twym yn tueddi i chwythu allan trwy glawr y prosesydd, allai achosi llosgiadau cas.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY