dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL CIWCYMBR, GARLLEG A IOGWRT

CAWL CIWCYMBR, GARLLEG A IOGWRT

CATEGORI : CAWL

DIGON I :

CYNHWYSION

1 ciwcymbr - heb ei groen, wedi'i haneru a heb ei hadau
¾ peint/425ml o iogwrt plaen
¾ peint/425ml o stoc llysiau neu gyw iâr
1 ewin o arlleg - wedi'i dorri'n fân
1 llwy fwrdd o olew olewydd
1 llwy de fflat o halen
1 llwy de o fintys - wedi'i falu
1 llwy fwrdd o gennin syfi - wedi'u torri'n fân
sudd ½ lemwn
DULL
Coginiwch y garlleg yn yr olew olewydd dros wres isel. Gadewch iddo oeri. Cymysgwch yr halen, y garlleg a'r olew at ei gilydd i wneud pâst. Ychwanegwch y sudd lemwn, yr iogwrt a'r stoc wedi oeri. Cymysgwch yn dda. Torrwch ¼ ciwcymbr mor fân â phosib. Rhowch i'r naill ochr. Gratiwch weddill y ciwcymbr ac ychwanegwch at y gymysgedd iogwrt. Cyfunwch yr holl gynhwysion gyda'i gilydd ac oerwch yn dda cyn gweini. Ychwanegwch y ciwcymbr wedi'i dorri'n fân a pherlysiau at bob bowlen cyn gweini.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY