dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL MINESTRONE SYML

CAWL MINESTRONE SYML

CATEGORI : CAWL

DIGON I :

CYNHWYSION

2 beint/1.1 litr o stoc ham, cyw iâr neu lysiau
4 owns/110g o farfalline (pasta)
2 owns/50g o bys
3 tomato eirin - heb eu crwyn ac wedi'u torri'n 8
2 lwy fwrdd o olew olewydd
2 ewin o arlleg - wedi'u torri'n fras
2 goesyn o seleri - wedi'u torri'n fras
2 lwy fwrdd o biwri tomato
2 lwy fwrdd o bersli- wedi'i dorri'n fân
1 winwnsyn - wedi'i dorri'n fân
1 morynen - wedi ei thorri i giwbiau
1 daten fawr - wedi'i phlicio a'i thorri i giwbiau
1 genhinen ganolig - wedi'i glanhau a'i thorri'n fân
1 bwnsied bach o fasil - wedi'i dorri'n fân
halen a phupur du
1 ddeilen lawryf
DULL
Twymwch yr olew a choginiwch y winwnsyn, y garlleg, y foronen a'r seleri am 5 munud. Ychwanegwch y puree tomato a phupur du i flasu a choginiwch am 2-3 munud. Ychwanegwch y stoc dwym, y daten a'r ddeilen lawryf. Coginiwch am 15 munud, yna ychwanegwch y pasta a choginiwch am 5 munud arall. Ychwanegwch y cennin, y persli, y basil, y pys a'r tomatos. Coginiwch am 10 munud arall. Diffoddwch y gwres. Mae'r cawl hwn yn well o'i baratoi diwrnod cyn ei ddefnyddio. Tynnwch y ddeilen lawryf cyn gweini ac addurnwch â chaws Parmesan ffres wedi'i ratio.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY