DULL
Mewn sosban 4 peint/2.2 litr, toddwch y menyn a choginiwch y winwnsyn nes ei fod yn feddal. Ychwanegwch y tatws a choginiwch am 2-3 munud arall, gan adio pinsiad go dda o halen a phupur. Rhowch y stoc dwym yn y sosban ac ychwanegwch y ddeilen lawryf. Coginiwch nes bod y tatws yn feddal - tynnwch y ddeilen lawryf. Torrwch y berw'r dwr a'r teim ac ychwanegwch at y sosban. Coginiwch am 2 funud arall. Hylifwch gyda hylifydd llaw, ychwanegwch yr hufen a mwy o halen a phupur os oes angen. Gallwch fwyta'r cawl hwn yn oer neu'n dwym. Mae'n dda gyda croûtons poeth iawn ar ei ben.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley