DULL
Twymwch y menyn mewn sosban fawr. Ychwanegwch y winwnsyn a'r seleriac a browniwch yn ysgafn. Ychwanegwch halen a phupur. Ychwanegwch y stoc a mudferwch am 20 munud neu nes bod y seleriac yn feddal. Ychwanegwch yr afalau a'r sudd lemwn a choginiwch nes bod yr afal wedi meddalu. Hylifwch y cawl ac ychwanegu'r caws stilton iddo doddi. Hylifwch eto ac ychwanegwch yr hufen cyn gweini.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley