dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL FFA GWYNION  A LEMWN

CAWL FFA GWYNION A LEMWN

CATEGORI : CAWL

DIGON I :

CYNHWYSION

1¾ pwys/750g tun o ffa gwynion
5 owns/150g o fenyn di-halen
2 beint/1.1 litr o stoc cyw iâr
¼ peint/150ml o hufen curo
croen a sudd ½ lemwn -wedi'i ratio
1 winwnsyn - wedi'i dorri'n fân
1 ewin o arlleg - wedi'i falu
llond dwrn o bersli gwastad (flat leaf) - wedi'i dorri'n fân
halen a phupur i flasu
DULL
Twymwch y menyn mewn sosban fawr. Coginiwch y winwns a'r garlleg nes eu bod yn feddal. Draeniwch y ffa a'u rhoi yn y sosban. Rhowch y stoc yn y sosban a mudferwch am 30-40 munud nes bod y ffa yn feddal. Ychwanegwch groen a sudd y lemwn a mudferwch am 10 munud. Defnyddiwch hylifydd llaw i hylifo'r cawl. Ychwanegwch yr hufen a thwymwch y cawl drwyddo cyn ychwanegu sesnad (seasoning) os oes angen. Addurnwch â'r persli a gweinwch


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY