dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CWLI FFRWTHAU

CWLI FFRWTHAU

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

ffrwythau ffres e.e.mefus, mafon, mango, ciwi, mwyar-duon
stoc syrup (h.y dwr a siwgr neu glwcos wedi ei ferwi lawr i syrup trwchus)
toes ffilo
ffrwythau cymysg - mefus, paw-paw, pin afal, oren, passion fruit
cwstard ‘confectiones'
DULL
Rhowch y ffrwyth mewn hylifwr (gofalwch i dynnu croen oddi-ar ffrwythau fel mango neu ciwi). Hylifwch y ffrwythau yn dda. Rhidlwch y saws drwy rhidlwr man mewn i fowlen er mwyn creu cwlis. Ychwanegwch y stoc surap ir cwli. Barod i'w ddefnyddio. I'w gadw- rhowch yn yr oergell a'i orchuddio.
Gwnewch fasgedi a dau ddisg gwahanol faint o'r toes ffilo. Peintiwch waelod y basgedi gyda siocled wedi toddi (ar ôl ei bobi) er mwyn cryfhau y basgedi. Craswch y disgiau o dan gril poeth gyda siwgr eisin arnynt. Rhowch lenwad o gwstard yn y fasged, ychwanegwch ffrwythau sydd yn gymysg mewn bowlen. Rhowch ddisg ar dop y llenwad ac adeiladwch dwr o ffrwythau a disgiau. Gweinwch gyda'r cwli.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY