dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PANNACOTTA

PANNACOTTA

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

1.2 litr/2 beint a 2¼ owns hylifol o hufen dwbwl
2 pôd fânila
croen 2 lemon - wedi'i sleisio'n denau
2 deilen gelatin
150ml/5¼ owns hylifol o laeth oer
150g/5¼ owns o siwgr eisin
120ml/4¼ owns hylifol o grappa
3 bocs o fafon
DULL
Rhowch 900 ml o hufen, y pod fânila a'r croen lemon mewn sosban. Gadewch iddo ddod i'r berw, yna gadewch iddo fudferwi hyd nes y mae wedi lleihau traean o'i faint gwreiddiol. Tynnwch y croen Lemon allan o'r sosban a'i gadw ar un ochr. Tynnwch y fânila, agorwch y pod a thynnu'r hadau, ychwanegwch hwn i'r hufen. Mae angen rhoi'r gelatin i socian mewn llaeth am tua 15 munud hyd y nes eu bod yn feddal. Cynheswch y llaeth nes ei fod yn berwi, yna ychwanegwch y gelatin a'i droi nes y mae wedi toddi. Mae angen tywallt y llaeth drwy ridyll ar yr hufen a gadewch iddo oeri. Chwipiwch weddill yr hufen a'r siwgr eisin yn ysgafn, yna plygwch y gymysgedd yma i'r hufen sydd wedi ei goginio. Cymysgwch pan maent wedi oeri. Rhowch y grappa a darn o groen lemon mewn gwaelod dysgl ramecin. Ychwanegwch y gymysgedd i pob ramecin a rhowch yn yr oergell am 2 awr.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY