dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CRYMBL CNAU A FFRWYTHAU'R HAF

CRYMBL CNAU A FFRWYTHAU'R HAF

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 4-6

CYNHWYSION

500g/17½owns o gwsberys - y pen a'r gwaelod wedi torri ffwrdd
175g/6¼owns o siwgr castr
3 llwy fwrdd/55ml o sudd flodau ysgaw
75g/2½owns o fenyn - wedi'i dorri ddarnau a'r dymheredd ystafell ac ychwanegol ar gyfer iro
175g/6¼owns o flawd plaen
50g/1¾owns o gnau pecan - wedi'u torri'n fras
DULL
Cynheswch y ffwrn hyd at 190°C / 375F / Nwy 5. Irwch disgl 1.2 litr sy'n addas ar gyfer rhoi yn y ffwrn. Rhowch y gwsberys, 115g o siwgr castr a'r sudd flodau ysgaw mewn pan a'u coginio'n ysgafn am 5 munud, gan troi'n aml nes bod y ffrwythau'n dechrau meddalu. Trosglwyddwch y cymysgedd gwsberys i'r ddisgl sydd wedi iro. I wneud y crwmbl, defnyddiwch eich bysedd i rwbio'r menyn i fewn i'r blawd nes bod yn gymysgedd tebyg i frwsion bara. Cymysgwch fewn gweddill y siwgr a'r cnau pecan cyn gorchuddio'r cymysgedd gwsberys gyda haenen twychus.
Pobwch am 30-40 munud nes bod y crwmbl wedi frownio. Gweinwch yn syth gyda cwstard ffres, hufen ia neu hufen dwbl.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY