DULL
Tynnwch groes yr eog a thorrwch y pysgodyn yn ddarnau man. Ffriwch y winwns am funud. Hanerwch y tatws. Torrwch y pupur yn stribedi ac ychwanegwch at y winwns. Ychwanegwch y tomatos a'r finegr mafon a chynheswch y cynhwysion. Rhowch y rocket, y salad a'r basil mewn bowlen gymysgu fawr ac ychwanegwch y cynhwysion cynnes atynt a chymysgwch yn dda. Ychwanegwch yr eog, halen a phupur a'i gymysgu'n dda cyn ei weini. Gallwch ddefnyddio lemwn i weini hefyd os ydych yn dymuno.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley