DULL
Mae angen glanhau a thrimio'r pysgod, ac mae angen tynnu croen y maelgi a'r John Dory. Yna torrwch y pysgod i ddarnau o'r un maint. Eich dewis chi yw pa mor fawr neu fychain yr ydych eisiau'r darnau. Cymysgwch yr holl gynhwysion (ar wahân i'r ffiledau ac esgyrn y pysgod) yn yr olew olewydd am tua 10 munud. Ychwanegwch esgyrn y pysgod a'i chwysu am 5 munud arall. Yna ychwanegwch y gwin a'r Pernod a gadael iddo leihau i hanner ei faint gwreiddiol. Ychwanegwch ddwr ato a gadael iddo ferwi'n gyson am 15 munud gan ei sgimio pob hyn a hyn. Rhowch y stoc drwy ridyll a'i wasgu yn dda er mwyn cael holl sudd. Mae angen tywallt hwn wedyn i badell ffrio gyda ochrau uchel. Rhowch y maelgi i fewn gyntaf, gan ddilyn gyda gweddill y pysgod rhwy 5 munud yn ddiweddarach. Potsiwch y pysgod yn ysgafn iawn am tua 5 munud, yna symudwch y pysgod i blât cynnes er mwyn gorffen y cawl.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley