dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
MAYONNAISE PUPUR WEDI'I ROSTIO

MAYONNAISE PUPUR WEDI'I ROSTIO

CATEGORI : SAWS A DRESIN

DIGON I :

CYNHWYSION

4 melynwy mawr
2 ewin o arlleg - wedi'i blicio a'i falu gyda ychydig o halen
1 pupur coch bach
1 chilli goch
50ml/1¾ owns hylifol o olew olewydd
2 llwy fwrdd o datws stwnsh
2 llwy de o fwstard
DULL
Rhostiwch y pupur a'r chilli dros fflam agored. Rhostiwch y pupur tua 10 munud, a'r chilli am tua 2 funud, hyd nes mod eu crwyn wedi llosgi. Rhowch nhw mewn powlen a'u gorchuddio gyda cling film am tua 10 munud. Ymhen 10 munud tynnwch nhw o'r bowlen. Yna tynnwch y croen a'r hadau. Wedyn, fe ellwch unai ei dorri hwy'n fân neu eu gwneud yn bâst. Yna, ychwanegwch y melynwy, garlleg a'r mwstard. Tra'n troi cymysgedd ychwanegwch yr olew mewn llif araf cyson.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY