dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
ROULADE LEMON A MEFYS

ROULADE LEMON A MEFYS

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 8

CYNHWYSION

80g/2¾owns o flawd plaen
1 llwy fwrdd o flawd corn
1½ llwy de o bowdwr pobi
4 wy -wedi ei gwahanu
croen a sudd 1 lemwn - wedi gratio
185g/6½ owns o siwgr castr
1 llwy dê o ddwr blodyn oren

i lenwi'r roulade

100g/3½owns o curd lemwn
200g/7¼owns o hufen dwbwl – wedi'i whipio
250g/8¾owns o fefus – wedi'u torri
DULL
Cynheswch y popty ar 180 c/marc Gas 4. Rydych angen trai swiss rôl mesuriadau 33 cm x 25 cm. Rhowch y blawd trwy ridyll, ychwanegwch y blawd corn, ar powdwr pobi, cadwch i un ochr. Wisgwch y gwynwy Wy tan y maent wedi sythu ac yn raddol ychwanegwch y 4 llwy fwrdd o siwgr castr. Wisgwch y melynwy Wy gyda'r croen Lemwn gan ychwanegu gweddill y siwgr, wedyn y sudd Lemwn ar dwr oren a chymysgwch. Yn sydyn rhowch y gwyn Wy yn y cymysgiad gyda llwy fetel gyda'r blawd i ddilyn a chymysgwch (mewn ffigwr 8) gyda'r llwy. Wedyn tywallt y cymysgiad ar y trai a goginiwch am 15 munud neu tan y mae'r lliw yn felyn. Rhowch siwgr ar bapur -greaseproof- ddigon mawr maint yr swiss rôl, a rhowch arno ddal yn boeth a thacluswch o gwmpas y godre. Rhowch bapur glan -greaseproof- drosto a roliwch i fyny. Gadewch i oeri. Unwaith maent wedi oeri mae angen dadwneud y rôl a thaenu y lemon curd ar hufen arno, ag i orffen y mefus - wedyn ei ail rolio i fyny.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY