dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
LASAGNE HAFAIDD

LASAGNE HAFAIDD

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

6 sbrigyn o fasil ffres
5 llwy ffwrdd o olew olewydd
2 stribedi o groen lemwn
2 stribedi o groen oren
500g/1pwys o domatos coch - heb y croen a'r hadau ac wedi'u torri.
2 hanner o domato ‘sun-dried' (mewn olew) - wedi'u sleisio'n denau
6 corbwmpen bach - wedi eu haneru neu 2 corbwmpen cyffredin wedi sleisio a'i rhoi mewn dwr berwedig hallt.
350g/12owns o gaws ricotta - at dymheredd ystafell
12 haenen o basta lasagne - gwyrdd neu plaen
halen
pupur du
DULL
Tynnwch y dail fasil o'u coesau a rhowch i'r ochr. Torrwch hanner y dail a chadwch y gweddill yn gyfan. Cynheswch yr olew mewn sosban fach gyda choesau'r basil a'r croen lemwn ac oren. Wedyn tynnwch a thaflwch y coesau a'r croen. Ychwanegwch y tomatos, y tomatos heulgras, halen a phupur, wedyn ychwanegwch y gorbwmpen. Cynheswch yn ysgafn am tua 1 munud. Ychwanegwch y basil sydd wedi'i dorri cyn gweini. Sesnwch y ricotta. Coginiwch y lasagne tan ei bod yn meddalu mewn sosban fawr llawn o ddwr berw hallt - symudwch a gwahanwch yr haenau tra bod nhw'n berwi. (Bydd angen 12 haenen ond efallai bydd rhai yn torri neu'n sticio at eu gilydd). Hidlwch y lasagne yn ofalus wedyn hongiwch bob haenen dros ymyl yr hidlwr er mwyn atal y lasagne sticio at eu gilydd. Er mwyn adeiladu'r lasagne, gwnewch haenau rhydd o bob cynhwysyn ar bob plât, ychwanegwch unrhyw olew sydd ar ôl a hefyd halen a phupur.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY