DULL
Golchwch a thorrwch y llysiau yn ddarnau man. Cynheswch yr olew a choginiwch y llysiau dan gaead nes eu bod yn dryloyw. Ychwanegwch ddigon o stoc cyw iâr i orchuddio'r llysiau. Ychwanegwch y cnau a gadewch i ffrwtian am 20 munud. Yn olaf, ychwanegwch y siocled - gadewch iddo doddi a chymysgwch yn dda. Ychwanegwch halen i flasu. Hidlwch y cawl i greu cawl llyfn ac ail gynheswch. Cymysgwch y crème fraîche gydag ychydig o halen a phupur. Gweinwch y cawl gyda llwyaid o crème fraiche.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley