DULL
Cynheswch dun rhostio gydag ychydig o olew yr olewydd. Rhwbiwch y cig oen gyda garlleg a digon o halen a phupur. Seliwch yn y cig yn y tun nes yn lliw brown golau. Ychwanegwch tua 100ml o win gwyn at y cig a rhyw 3 neu 4 darn o rosmari. Gorchuddiwch y cig a thun ffoil. Pobwch yn y ffwrn ar wres isel, Nwy 1-2 am tua 6 awr. Pan fydd y cig wedi ei goginio bydd yn dod oddi ar yr asgwrn yn braf. Cadwch y sudd sy'n weddill yn y tun pobi i wneud stoc.
Defnyddiwch ddysgl ffwrn a chaead arni (rhyw 2" o ddyfnder). Rhwbiwch arlleg dros y ddysgl. Gosodwch haenau o datws un ar ben y llall nes bod gwaelod y ddysgl wedi ei gorchuddio, ychwanegwch halen, pupur ac ychydig o rosmari a phersli dros y tatws. Gosodwch hanner y darnau o gig oen dros y tatws i ffurfio haenen tua ½" o drwch. Gwnewch y broses uchod unwaith yn rhagor.
Yn olaf rhowch ddwy haenen o datws ar ben y cig a mwy o halen, pupur, persli a rhosmari.
Arllwyswch y stoc dros y cyfan a gadewch iddo suddo i mewn I'r darten. Rhowch y caead ar ei phen a'I phobi yn y ffwrn ar wres o 180ºC/350ºF/Nwy 4 am tua 1¼ awr.
Gadewch i oeri cyn gosod yn yr oergell am o leiaf 8 awr.
I weini, taenwch ychydig o fenyn ac olew yr olewydd dros y darten a'I chynhesu mewn ffwrn boeth am ryw 15 munud nes bydd y tatws wedi brownio.
Gweinwch gyda chennin a moron wedi'u stemio, dyrnaid o bersli ffres a menyn Cymreig neu lysiau neu salad o'ch dewis.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley