DULL
Taenwch halen a phupur dros y cig. Mewn tun rhostio poeth, cynheswch yr olew a seliwch bob ochr o'r cig nes ei fod yn frown. Coginiwch mewn ffwrn ar wres o 200°C am 15 munud i bob pwys ac yna 15 munud ychwanegol. Y menyn mewn sosban a ffriwch y shibwns nes eu bod yn feddal. Arllwyswch y wisgi i'r badell a'i 'fflamio' yna ychwanegwch y stoc. Berwch y cyfan a lleihewch. Ychwanegwch yr hufen a'r mwstard a choginiwch nes bod y saws wedi tewhau ychydig. Gadewch y cig i orffwys ychydig cyn ei dorri.
I'w Weini
Cynheswch yr olew mewn tun rhostio. Ychwanegwch y tatws newydd, y garlleg a phinsied dda o halen a phupur du. Rhostiwch mewn ffwrn ar wres o 200°C am tua 15 munud.Torrwch y fresychen yn fân a choginiwch ef mewn menyn poeth am ddwy funud. Ychwanegwch halen a phupur.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley