DULL
Cymysgwch croen y lemwn gyda'r wy a'r mwstard mewn cymysgydd. Cymysgwch y ddau olew mewn jwg. Gyda'r peiriant yn rhedeg arllwyswch yr olew trwy'r tywallt tan yn tewhau. Ychwanegwch y sudd lemwn, yr halen a'r pupur du. Rhowch y cwbl mewn bowlen a chymysgwch y berwr y dwr i fewn.
Blasu'n iachusol ac yn buprog. Yn berffaith ar gyfer saladau bwyd y môr, eog oer a chyw iâr.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley