DULL
Rhostiwch y garlleg mewn ffwrn ar wres 200ºC/Nwy 6/180ºC ffwrn ffan am tua 20 munud tan yn feddal. Gadewch i oeri ac wedyn pliciwch a chrafwch y cnawd allan a rhowch i mewn i'r cymysgedd. Ychwanegwch y wy a'r mwstard a chymysgwch. Cymysgwch yr olew mewn jwg. Gyda'r peiriant yn rhedeg arllwyswch yr olew trwy'r tywallt tan yn tewhau. Ychwanegwch lemwn a halen a phupur.
Blasu'n hufennog, myglyd. Yn berffaith ar gyfer crudités', llysiau wedi'u rhostio.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley