DULL
Cynheswch y badell ffrio a thoddwch y menyn. Curwch y stêc er mwyn ei dyneru. Ychwanegwch halen a phupur dros y cig. Coginiwch y stêc yn y badell boeth - tri chwarter munud bob ochr, os am stêc medium' (gall amrywio yn ôl chwaeth bersonol). Tynnwch y cig allan o'r badell ffrio a'i osod ar blât. Yn yr un badell, coginiwch y winwns a'r madarch nes yn frown. Rhowch y cig yn ôl yn y badell ac arllwyswch y wisgi dros y cyfan. Taenwch fenyn ar y tafelli o fara, yna'r winwns, madarch a'r stêc ar eu pen. Gwasgarwch haenen o fwstard dros y stêc cyn rhoi'r darn arall o fara ar ei ben.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley