dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
RISOTO CIG MOCH, PYS A FFA

RISOTO CIG MOCH, PYS A FFA

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

140g/5 owns o gig moch Cymreig
9ml/½ llwy fwrdd o olew olewydd
25g/1 owns o fenyn Llangadog
1 winwnsyn bach - wedi'i dorri'n fân
1 ewin o arlleg - wedi'i dorri'n fân
550-600ml/19½ - 21¼ owns hylif o stoc cyw iâr
185g/6½ owns o reis arborio
gwydraid o win gwyn
1 deilen lawryf
115g/4¼ owns o ffa ffres (tua 300g/10½ owns cyn tynnu'r sach hadau)
115g/4¼ owns o bys ffres
½ peint/10 owns hylif o hufen curo
halen
pupur du
caws parmesan ffres - wedi'i gratio
DULL
Coginiwch y ffa mewn dwr berw am ychydig, yna'u sefyll mewn dwr oer i atal y broses goginio. Cadwch ar y naill ochr. Cynheswch badell ffrio ddofn dros wres cymedrol. Ychwanegwch y cig moch a'i goginio nes iddo ddechrau crimpio. Ychwanegwch yr olew a hanner y menyn cyn ychwanegu'r winwns a'r garlleg. Coginiwch yn ysgafn am ryw 5 munud tan yn feddal. Gofalwch nad ydych yn eu llosgi. Ychwanegwch y reis a'i gymysgu gyda'r uchod cyn arllwys y gwin a'r ddeilen lawryf i'r badell. Coginiwch y cyfan am ryw ddwy funud. Ychwanegwch y stoc at y reis fesul dipyn, mewn rhyw 3 - 4 joch. Coginiwch nes i'r reis sugno'r stoc i gyd (mae angen gwres cymedrol am ryw 10 - 12 munud). Yn olaf, ychwanegwch y ffa a'r pys ffres, hufen, halen a phupur a chaws Parmesan ffres. Cymysgwch yn dda cyn ei weini. Gweinwch yn syth gyda chaws Parmesan ffres wedi ei gratio.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY