dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
EOG GWYLLT A  CHIG MOCH

EOG GWYLLT A CHIG MOCH

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 ddarn o eog - heb y croen
4 sleisen cig moch - wedi'i halltu'n sych
dyrnaid o deim ffres
olew olewydd

y saws:
gwydraid o win gwyn sych
¼ peint/5 owns hylif o hufen sengl
menyn - oer
dyrnaid o bersli - wedi'i dorri'n fân
1 lemwn - chwarter y sudd a'r croen i gyd
halen
pupur du
DULL
Rhowch dau ddarn o gig moch ochr yn ochr ar blât. Gosodwch ddarn o eog ar ben y cig moch. Rhowch ychydig o halen a phupur ar yr eog a darn o deim a'u lapio yn y cig moch. Brwsiwch ychydig o olew olewydd dros y cig moch. Coginiwch o dan gril cynnes neu ar y barbaciw am ryw 8-10 munud. Tra bod yr eog yn coginio, cynheswch y gwin mewn sosban fach a'i leihau ychydig. Cymysgwch yr hufen gyda'r gwin a dewch â nhw i'r berw. Tynnwch y pysgodyn allan a'i osod ar blât am ychydig. Torrwch y menyn (oer) yn ddarnau mân a'u hychwanegu i'r saws fesul dipyn gan guro'r cymysgedd yn gyson gyda chwisg. Yn olaf, ychwanegwch y sudd a chroen lemwn ac ychydig halen a phupur at y saws a'u curo. Cyn gweini, ychwanegwch bersli at y saws. Gweinwch gyda thatws newydd a llysiau.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY