DULL
Relish Tomato a Choriander:
Rhowch y goriander, garlleg, sinsir, sudd y leim, winwnsyn, cwmin, sos coch a'r halen a phupur mewn prosesydd bwyd a chwalu'r cyfan. I orffen, arllwyswch y tomatos ar ben y cyfan a chymysgwch y cyfan am ychydig cyn ei weini.
Relish Iogwrt a Chilli:
Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn bowlen a gadewch i sefyll am awr cyn eu defnyddio. Ychwanegwch fwy neu llai o chillies yn ôl eich blas personol. Os ydych yn penderfynu defnyddio llai o chillies, yna fe ddylech ddefnyddio llai o fêl.
Marinâd:
Rhowch y cynhwysion i gyd mewn i brosesydd bwyd a'u chwyrlio nes yn llyfn. Arllwyswch y marinâd dros y cig a gadewch i sefyll dros nos. Cynheswch y gril neu farbeciw a choginiwch y cig yn ofalus, heb eu llosgi am tua 8 munud bob ochr (yn ôl maint y stecen ac i'ch tast personol).
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley