dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
RHOLIAU ASPARAGUS

RHOLIAU ASPARAGUS

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

dyrnaid o asbaragws ffres
6 tafell o ham Caerfyrddin neu ham Parma
4 llwy fwrdd olew cnau Ffrengig
2 lwy fwrdd o finegr balsamig
halen môn
pupur du
DULL
Plygwch yr asbaragws rhyw fodfedd o'r gwaelod, er mwyn eu torri. Bydd hyn yn cael gwared ar y darn caled. Dim ond y darn meddal fydd angen i chi ei ddefnyddio (cadwch y bonion ar gyfer cawl.) Coginiwch yr asbaragws mewn dwr hallt am ryw 4 munud. Gadewch i oeri. Torrwch ddarn o ham a'i lapio o amgylch yr asbaragws.

y saws:
Mewn pot jam, neu bot tebyg, curwch yr olew cnau Ffrengig, finag balsamig, halen a phupur gyda'i gilydd. Cadwch y cymysgedd yn yr un pot. Cyn gweini, arllwyswch y saws dros yr asbaragws.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY