dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYW IÂR GYDA LEIM A SINSIR

CYW IÂR GYDA LEIM A SINSIR

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

1 cyw iâr (1.3-2kg/3-5 pwys)
1 winwnsyn - wedi'i haneru
2 leim
3 ewin o arlleg - wedi'u torri'n haenau tenau
darn 2" o sinsir ffres (heb y croen) - wedi'i sleisio'n denau
1 llwy fwrdd o olew olewydd
halen
pupur du
DULL
Tra'n paratoi'r cig, cynheswch y ffwrn i 160°C. Gyda chyllell finiog, torrwch i mewn rhyw ½" i'r cig, gan wneud chwe thoriad ar bob ochr i'r frest, a phedwar toriad ym mhob coes. Gan ddefnyddio pliciwr llysiau, tynnwch y croen oddi ar un leim. Gwthiwch ddarnau o sinsir, garlleg a chroen leim i mewn i'r toriadau. Gwasgwch sudd y ddau leim dros y cig. Rhowch y cig mewn tun pobi a gwthiwch y winwnsyn a gweddill y sinsir, garlleg a'r leim i mewn i gorff y cyw iâr. Rhwbiwch yr olew dros y cig cyn rhoi halen a phupur dros y cyfan. Coginiwch yn y ffwrn am 20 munud y pwys ac 20 munud yn ychwanegol ar 160°C. Gweinwch yn gynnes neu'n oer.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY