dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
ORENNAU MEWN COINTREAU

ORENNAU MEWN COINTREAU

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 4

CYNHWYSION

8 oren fawr

y saws:
400g/14 owns o siwgr gwyn mân
180ml/6 owns hylif o sudd oren
70ml/2½ owns hylif o dwr
2 oren - wedi'u torri'n gylchoedd
croen 2 oren - wedi'i dorri'n fân
50ml/1¾ owns hylif of Cointreau
mintys ffres - i weini
DULL
Tynnwch y croen oddi ar yr orennau. Torrwch yr orennau yn bedwar cylch a chadwch nhw gyda'i gilydd gyda phren coctel. Rhowch yr orennau mewn dysgl addas. Mewn sosban, cynheswch y siwgr gan gadw i droi tan fod y siwgr wedi toddi ac wedi troi'n lliw brown golau. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres ac ychwanegwch y sudd oren a'r dwr bob yn dipyn. Rhowch y sosban nôl ar y gwres ac ychwanegwch y Cointreau a'r croen oren. Gadewch i ffrwtian ar wres isel am 5-10 munud. Gadewch i oeri cyn arllwys dros yr orennau a'i adael yn yr oergell dros nos. Gweinwch yn oer gyda darn o fintys ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY