DULL
Gosodwch 2 ddarn o ffoil ar ben ei gilydd (ar gyfer pob parsel). Rhowch dau ddarn o oren ac ychydig o ddail taragon ar y ffoil. Gosodwch y pysgod ar ei ben. Ychwanegwch ychydig o halen a phupur ar y pysgodyn cyn eu gorchuddio gyda mwy o daragon, dwy sleisen arall o oren a joch o win. Caewch y parsel yn dynn a'i goginio yn y ffwrn am 10-15 munud ar wres o 160°C. Gweinwch yn gynnes neu'n oer.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley