DULL
Toddwch y menyn a thri chwarter y siocled mewn dysgl wydr dros sosban o ddwr berwedig. Cymysgwch yn dda. Ychwanegwch y siwgr, wyau a'r fanila a'u chwipio gyda chymysgydd trydan nes bod y cymysgedd yn llyfn. Ychwanegwch y blawd yn araf deg at y cymysgedd a gwnewch yn siwr ei fod wedi cymysgu yn dda. Peidiwch â'i or-gymysgu. Rhowch bapur saim mewn tun pobi 8". Rhowch y gymysgedd yn y tun. Gorchuddiwch gyda'r cnau a'r siocled sydd yn weddill gan wasgu ychydig i mewn i'r gacen. Pobwch mewn ffwrn ar wres o 180ºC am 17-18 munud. Bydd yr ochrau yn grimp a'r canol yn feddal iawn. Gadewch i oeri cyn ei dorri yn 16 sgwâr.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley