dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TARTENNAU BACH TOMATO AC OLEWYDD

TARTENNAU BACH TOMATO AC OLEWYDD

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

1 pecyn o grwst pwff
olew olewydd
10 tomato plwm ffres neu domatos ar y goes - wedi'u torri'n wyth darn yr un
2 winwnsyn - wedi'u sleisio'n denau
4 ewin o arlleg - wedi'u torri'n fân
1 llwy fwrdd o biwre tomato
20 olewydd du
1 dyrnaid o fasil ffres
170g/6 owns o gaws Gruyere (neu Emmenthal) - wedi'i gratio
DULL
Rholiwch y toes yn denau a thorrwch 4-6 cylch digon o faint (defnyddiwch gaead sosban fach). Gadewch i'r toes orffwys cyn ei ddefnyddio. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a choginiwch y winwns a'r garlleg am ddwy funud. Ychwanegwch y piwre tomato a'u coginio am ddwy funud arall. Yna, ychwanegwch y tomatos a mymryn o halen a phupur. Gadewch i oeri (efallai y bydd angen pinsied o siwgr i wella blas y tomatos). Gwasgarwch y cymysgedd tomato dros pob un o'r cylchoedd. Rhannwch yr olewydd a'r dail basil cyn gorchuddio'r cyfan gyda'r caws. Pobwch yn y ffwrn am ryw 10-15 munud ar wres o 180°C nes i'r caws doddi a'r toes godi.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY