DULL
Y jeli
Meddalwch y dail gelatin mewn dwr oer. Dewch â'r sudd oren a'r siwgr mân i'r berw, sgimiwch a thynnwch oddi ar y gwres. Ychwanegwch ddail y gelatin wedi meddalu a'r Cointreau (os yn ei ddefnyddio). Cymysgwch am ryw hanner munud cyn ei hidlo. Rhowch haenen denau o jeli - trwch o tua ¼" - yn y terîn, gan orchuddio'r gwaelod ag ychydig o fintys. Gadewch i sefyll yn yr oergell am ryw 20 munud. Cadwch weddill y jeli yn yr oergell hefyd (peidiwch â'i adael i setio).
Y terîn
Pan fydd yr haenen gyntaf wedi setio, cymysgwch y ffrwythau gyda'i gilydd gan ofalu peidio â'u malu. Rhowch nhw yn y terîn ar ben y jeli. Gwasgwch nhw i lawr ychydig fel nad oes gormod o le rhyngddynt. Arllwyswch weddill y jeli dros y ffrwythau, ynghyd ag ychydig o fintys. Gorchuddiwch y terîn gyda cling film' a gadewch yn yr oergell dros nos (am o leiaf 12 awr).
I weini
Rhowch y terîn mewn powlen yn llawn dwr poeth am ychydig o eiliadau. Gyda chyllell finiog gynnes, torrwch yn araf deg rhwng ochr y terîn ar jeli. Trowch y terîn allan ar blât a'i dorri yn sleisys. Gweinwch gyda hufen iâ Llanfaes.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley