DULL
Rhowch y 'Bulgar Wheat' mewn bowlen gymysgu fawr a gorchuddiwch gyda'r stoc (digon i orchuddio'r 'Bulgar Wheat'). Gadewch i sefyll nes bod y stoc wedi suddo mewn i'r gwenith (tua 10-15 munud).Cynheswch yr olew mewn padell ac ychwanegwch y winwns, garlleg a'r chilli. Ffriwch am ychydig funudau nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y mêl, croen y leim, shibwns, y pys, halen a phupur a chymysgwch y cyfan yn dda.Trosglwyddwch y cynhwysion cynnes at y 'Bulgar Wheat' cyn ychwanegu'r dail mintys.Gweinwch yn gynnes neu'n oer.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley