DULL
Cynheswch y ffwrn i 200ºC/Nwy Marc 6. Rhowch y winwnsyn, pupur coch a melyn (gyda'r croen ar i fyny), a'r garlleg mewn tun rhostio. Arllwyswch olew dros y llysiau. Coginiwch am 25 - 30 munud nes eu bod yn dechrau brownio. Tynnwch y croen oddi ar y pupur coch a melyn - dylai ddod i ffwrdd yn rhwydd. Arllwyswch y cyfan i brosesydd bwyd, gyda'r tomatos, dwr, halen a phupur du. Chwyrliwch nes yn llyfn ac yna coginio'r cyfan mewn sosban ar wres isel am ryw 15-20 munud. Hidlwch y cawl a'i weini'n gynnes gydag ychydig o groen oren a llwyaid o hufen.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley