DULL
Toddwch 50g o'r menyn mewn padell ffrio. Ychwanegwch y winwns a'r garlleg a'u coginio nes yn feddal. Ychwanegwch yr afu a'i goginio'n araf cyn ychwanegu'r persli, dail llawryf, brandi a'r sieri a'i fflamio, ond byddwch yn ofalus. Ychwanegwch yr hufen gan gymysgu'n dda. Gadewch i oeri. Rhowch y cymysgedd mewn prosesydd bwyd a'i hylifo am ryw 2-3 munud i greu hylif llyfn. Toddwch weddill y menyn ac ychwanegwch dri chwarter i'r cymysgedd a'i gymysgu am ychydig eto. Bydd yn helpu'r paté i galedu. Arllwyswch y cymysgedd i ddysgl addas. Gorchuddiwch gyda gweddill y menyn, fydd yn helpu cadw'r paté yn ffres ac i gadw'i liw. Cadwch yn yr oergell dros nos. Gweinwch gyda thost neu fara ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley