DULL
Cynheswch y ffwrn i 180ºc. Paratowch dun bara 2 bwys drwy ei leinio gyda haen lynu. Berwch y datys yn y dwr am ryw ddwy funud, ac ychwanegwch y bicarbonad soda. Mewn prosesydd bwyd, cymysgwch yr wyau, menyn a'r siwgr cyn ychwanegu'r blawd a'r rhinflas fanila. Arllwyswch y cymysgedd i'r tun a'i bobi yn y ffwrn am 35- 40 munud.
Y saws:
Mewn sosban, berwch yr hufen, siwgr a'r triog gyda'i gilydd nes i'r siwgr doddi a chreu saws llyfn. Gweinwch y gacen yn gynnes gyda llwyaid o'r saws.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley