dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
GRANOLA

GRANOLA

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 8

CYNHWYSION

6 cwpan o geirch sy'n coginio'n gyflym
1 cwpan o gneuen goco - wedi'i malu'n fân
¾ cwpan o fywyn gwenith
½ cwpan o fêl
½ cwpan o almonau a chnau cymysg, wedi'u torri'n fân
½ cwpan o hadau blodau haul
1/3 cwpan o hadau sesame
1/3 cwpan o olew blodau haul
1/3 cwpan o sudd afal neu oren
½ cwpan o resinau
DULL
Mewn dysgl wydr mawr,cymysgwch yr holl gynhwysion, heblaw'r rhesinau, gyda'i gilydd. Coginiwch mewn meicrodon ar wres uchel am 13-15 munud, gan eu troi bob yn hyn a hyn. Ychwanegwch y rhesinau ar y funud olaf, a chymysgwch yn dda. Gadewch i oeri cyn eu rhoi mewn bocs aer-glos megis Tupperware. Gweinwch gyda ffrwythau ffres, compot ffrwythau neu iogwrt naturiol.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY