dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PORC MEWN SAWS MEDD

PORC MEWN SAWS MEDD

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 golwyth o borc
50g/2 owns o fenyn
½ llwy de o bowdwr paprica
1 shibwnsyn - wedi'i dorri'n fân
8-10 madarch gwyn - wedi'u torri'n fân
70ml/2½ owns hylif o medd
70ml/2½ owns hylif o stoc porc
1 llwy fwrdd o hufen curo
halen môn
pupur du
DULL
Rhwbiwch y paprica, halen a phupur i mewn i'r cig. Cynheswch badell ffrio a thoddwch hanner y menyn. Coginiwch y cig ar bob ochr nes yn frown. Ychwanegwch y shibwnsyn a'i goginio nes yn feddal cyn ychwanegu'r madarch a'u brownio yn ysgafn. Arllwyswch y medd a'r stoc dros y cyfan, ei fudferwi a'i leihau i hanner y maint gwreiddiol. I orffen y saws, ychwanegwch yr hufen a'i gynhesu trwyddo gyda'r menyn sydd dros ben. Gweinwch y golwythion porc gyda chacennau saets a llysiau o'ch dewis.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY