DULL
Gorchuddiwch y brithyll gyda halen a phupur, ychydig o olew a'i lapio mewn ffoil. Gosodwch ar farbaciw neu o dan gril cynnes a'i goginio am 8-10 munud. I baratoi'r saws, cynheswch yr olew mewn padell ac ychwanegwch groen lemwn, garlleg a basil a'u cynhesu. Rhowch gynhwysion y salsa mewn dysgl a'u cymysgu cyn ychwanegu'r sudd lemwn. Yna ychwanegwch y saws olew cynnes, halen a phupur a'u cymysgu'n dda. Gweinwch gyda'r brithyll
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley