dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SIYTNI AFAL A SBEIS

SIYTNI AFAL A SBEIS

CATEGORI : JAM, CHYTNI, A RELIS

DIGON I :

CYNHWYSION

900g/2pwys o afalau coginio - croen wedi'i dynnu ffwrdd
450g/1pwys o winwns - wedi eu torri
2 - 3 clof o arlleg
50g/2owns o fenyn - i ffrio
2 lwy de o bowdr sinsir
1 llwy de o sbeis cymysg
½ llwy de o bupur cayenne
½ llwy de o bowdr chillis
200g/7¼owns o siwgr brown meddal
250ml/8¾owns hylif o finegr seidr
150g/5¼owns o resins
2 lwy de o halen
1 lemwn - gan gynnwys y croen
DULL
Toddwch y menyn mewn padell a ffriwch y winwns a'r garlleg nes yn feddal. Ychwanegwch y sinsir, sbeis cymysg, cayenne a'r chilli a'u cymysgu'n dda. Yna, ychwanegwch y siwgr brown, finegr seidr, resins a'r halen a'i droi. Yn olaf, cymysgwch yr afal, croen lemwn a'r darnau lemwn gyda'r cynhwysion eraill a'u gadael i ffrwtian am 60 munud ar wres isel. Gadewch i oeri cyn ei weini.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY