DULL
Torrwch y crwst oddi ar dop y dorth a rhowch i'r naill ochr. Yn ofalus, gan beidio creu tyllau yn y crwstyn, tynnwch y bara o ganol y dorth. Cynheswch yr olew mewn padell digon o faint. Rhowch halen a phupur ar y cyw iâr a'r cig gwydd a'u coginio am ryw 8-10 munud. Peidiwch â'u gor goginio. Rhowch ar y naill ochr, gan gadw'r sudd yn y badell. Yn yr un badell, coginiwch y bacwn ar winwns. Ychwanegwch fwy o olew i'r badell a choginiwch y madarch am ryw 8 munud, yna'r sudd lemwn, siwgr, halen a phupur. Cadwch y sudd. I ffurfio'r dorth, gosodwch ddarn o gyw iâr, bacwn a gwydd yn y dorth yna ddarn o bupur coch a melyn, winwns a chennin ac un madarch fawr. Gwnewch hyn nes bod y dorth yn gyfan, gan arllwys y sudd o'r badell ar ben y cig a'r llysiau cyn rhoi'r clawr bara am ei phen. Lapiwch y dorth mewn ffoil a gadewch yn yr oergell dros nos gyda digon o bwysau ar ei phen (gallwch ddefnyddio 2 garton o sudd oren). I weini, tynnwch y ffoil a thorrwch y dorth yn dafelli trwchus. Gweinwch gyda salad ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley