DULL
Rhowch y garlleg, winwnsyn a'r llaeth mewn prosesydd bwyd a'u chwyrlio i greu pâst tebyg i gnawd cneuen goco.* Mewn wok neu badell fawr, toddwch y margarîn a choginiwch y cyw iâr, gan ofalu peidio'i or-frownio. Rhowch ar blât o'r neilltu. Ychwanegwch y pâst i'r badell a chynheswch am ryw 2 funud. Rhowch y cyw iâr nôl yn y badell, gan ychwanegu'r powdwr cyrri, almonau, halen a phupur du. Gadewch i ffrwtian am ryw 3-4 munud. Ychwanegwch y crème fraiche a'i gynhesu trwyddo. Gweinwch gyda choriander ffres a reis.
* Tip Dudley: Am well blas, torrwch y garlleg a'r winwns yn fân. Cynheswch olew isel mewn braster mewn padell a ffriwch y winwns a'r garlleg nes yn feddal.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley