DULL
Mewn prosesydd bwyd, cymysgwch y chilli, winwns a'r sinsir gyda ryw 3 llwy fwrdd o ddwr i greu past llyfn. Cynheswch yr olew mewn padell fawr neu wok. Ychwanegwch y mwstard a'r hadau ffenigrig a choginiwch am ryw 10 eiliad. Ychwanegwch y past winwns, trowch y gwres i lawr a choginiwch yn araf, am ryw 5 munud. Peidiwch â'u brownio. Ychwanegwch ychydig o ddwr os oes angen. Ychwanegwch y tyrmerig a'r pupur du, a throi'r cymysgedd cyn ychwanegu'r corgimychiaid. Arllwyswch y llaeth cneuen goco i'r badell a'i adael i ffrwtian, gan barhau i droi'n gyson. Coginiwch am ryw funud nes bydd y bwyd i gyd wedi cynhesu trwyddo. Gweinwch gyda reis, sudd leim a choriander ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley